36

Beth yw'r materion pwysig i'w hystyried wrth ddechrau neu redeg busnes bach mewn amgylchedd gwledig? Bydd yr uned astudio hon yn eich cyflwyno i rai syniadau a modelau a fydd yn eich helpu i weithio allan yr hyn rydych am ei wneud gyda'ch syniad busnes ac ystyried effaith byw mewn lleoliad gwledig.

FREE
This course includes
Hours of videos

Units & Quizzes

0

Unlimited Lifetime access
Access on mobile app
Certificate of Completion

Cyflwyniad

Mae'r uned hon yn ystyried y materion sy'n bwysig wrth ddechrau neu redeg busnes bach mewn amgylchedd gwledig. Mae'r modelau busnes traddodiadol yn berthnasol i'r broses o redeg busnes mewn unrhyw leoliad. Bydd yr uned hon yn eich cyflwyno i rai syniadau a fydd yn eich helpu i weithio allan yr hyn rydych am ei wneud gyda'ch syniad busnes. Bydd yn gofyn i chi ystyried yr effaith y mae byw mewn lleoliad gwledig yn ei gael ar eich busnes ac i ystyried beth sy'n bwysig i chi. Dyma rai cymeriadau a fydd yn cadw cwmni i ni drwy gydol yr uned. Mae gan bob un ohonynt gynnig gwahanol sy'n wynebu heriau penodol oherwydd y cyd-destun gwledig. Mae Euan yn gweithio ar fferm y teulu ac mae am wneud mwy o incwm drwy arallgyfeirio y tu allan i weithgareddau ffermio traddodiadol. Mae Gwyneth yn gogyddes frwd. Mae'n gweithio mewncaffi yn y dref, ond mae ei horiau gwaith wedi cael eu torri. Er mwyn ychwanegu at incwm y teulu, mae am werthu ei jamiau, ei siytnis a'i chyffeithiau cartref mewn marchnadoedd ffermwyr a ffeiriau bwyd. Mae Julia, myfyrwraig Addysg Bellach, yn byw gyda'i theulu mewn ardal anghysbell lle mae'r Swyddfa Bost a siop y pentref dan fygythiad. Mae angen iddi gymryd rhan mewn gweithgarwch menter tîm fel rhan o'i chymhwyster Bagloriaeth Cymru ac fe'i hysbrydolwyd gan ddigwyddiadau menter a darlithoedd a fynychwyd yn y coleg. Gyda chymorth staff yn Swyddfa'r Post, mae hi am arwain trigolion lleol mewn cais i redeg Swyddfa'r Post a'r siop a'u rhedeg fel siop gymunedol. Mae Dafydd yn ffermwr defaid sydd, ynghyd â'i wraig Ffion, yn gweithio oddi ar y fferm er mwyn ychwanegu at yr incwm ffermio. Mae Dafydd am arallgyfeirio i'r busnes rhentu tai gwyliau drwy droi tri beudy nad ydynt yn cael eu defnyddio yn llety hunan-arlwyo eco-gyfeillgar. Mae Gwenllian yn athrawes ieithoedd sy'n byw mewn ardal gymharol wledig yng nghanolbarth Cymru lle mae cael mynediad i ddysgu yn anos (pellteroedd pell, cludiant cyhoeddus gwael ac amserlenni anhyblyg). Mae wedi gweld bod galw am wasanaethau datblygu proffesiynol parhaus o ran iaith a gwasanaethau cyfieithu ymhlith busnesau lleol sy'n allforio eu cynhyrchion i gyfandir. Beth bynnag fo'ch cymhelliant dros ddilyn yr uned astudio hon, bydd yn eich tywys ar daith a fydd yn edrych ar yr heriau sy'n eich wynebu os ydych yn byw mewn amgylchedd gwledig ac yn eich ysgogi i feddwl am sut y gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i redeg busnes llwyddiannus o'ch dewis.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl i chi gwblhau'r uned hon, byddwch:
  • Deall pwysigrwydd sut mae byw mewn ardal wledig yn dylanwadu ar amcanion eich busnes neu'ch menter gymdeithasol
  • Ystyried ymarferoldeb syniad busnes
  • Cynllunio strategaeth i ddatblygu eich cwmni
  • Nodi'r adnoddau a'r galluoedd tebygol sydd eu hangen ar gyfer eich busnes newydd a deall lle mae'r bylchau yn debygol o ddigwydd.

Course Currilcum