1

Gan ystyried bod ansawdd profiad eich myfyrwyr prifysgol yn dechrau gydag ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan staff y brifysgol, ydy'r gweithle yn eich SAU yn llwyddo?

FREE
This course includes
Hours of videos

27 years, 9 months

Units & Quizzes

1

Unlimited Lifetime access
Access on mobile app
Certificate of Completion

Pa effaith gafodd y 'newid i weithio ar-lein', a'r ymarfer a phrosesau sydd wedi dilyn, ar lesiant staff? Bydd y cwrs hwn yn archwilio'r hyn a olygir gan lesiant yn y gweithle mewn byd gweithio hybrid - pwy sydd â'r cyfrifoldeb ohono, yr heriau a wynebir wrth ei greu a'i gynnal, a'r buddiannau i'ch sefydliad.

Ydy eich sefydliad yn gynhwysol, yn amrywiol ac yn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal? Caiff Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ei wawdio yn aml fel 'cywirdeb gwleidyddol wedi mynd i'r pen' neu fod blwch gofynion cyfreithiol yn cael ei lenwi gyda thic, ond mae'r cwrs hwn yn pwysleisio'r rôl allweddol sydd ganddo i gyrraedd diwylliant o lesiant, ac yn eich gwahodd chi i'w ystyried fel buddsoddiad yn ased pwysicaf eich sefydliad: y bobl sy'n gweithio yno.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • adlewyrchu ar arferion gweithio hybrid/digidol a'u heffaith ar lesian personol, a llesiant cydweithwyr
  • trafod agweddau gwahanol o lesiant, cydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth yng nghyd-destun gweithio hybrid ac yn ddigidol
  • mynegi buddiannau a/neu risgiau posibl i lesiant personol sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu â gweithgareddau ar-lein
  • gwerthfawrogi pwysigrwydd datblygu a chynnal amgylchedd gweithio amrywiol a chynhwysol
  • cydnabod y rôl o arweinyddiaeth a chyfrifoldeb personol wrth werthfawrogi cydraddoldeb, cynhwysiant a gwahaniaeth ar lefel unigol, yn ogystal ag i dimau a'r sefydliad ehangach.

Course Currilcum

  • Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant Unlimited