31
Mae bod â sgiliau da mewn mathemateg yn bwysig mewn bywyd beunyddiol.
1 day, 5 hours
97
Yn wir, mae’n bosibl nad ydych wedi sylwi pa mor aml rydych yn defnyddio mathemateg o ddydd i ddydd. Mae’r cwrs hwn, sydd am ddim, yn gyflwyniad i Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn mathemateg, ac mae wedi’i gynllunio i’ch ysbrydoli i wella eich sgiliau mathemateg presennol ac i’ch helpu i gofio unrhyw feysydd y gallech fod wedi’u hanghofio.
Bydd gweithio drwy’r enghreifftiau a’r gweithgareddau rhyngweithiol yn y cwrs hwn yn eich helpu, ymhlith pethau eraill, i gyfrifo faint o baent y bydd ei angen arnoch ar gyfer addurno, a throsi arian, neu symud ymlaen yn eich gyrfa neu addysg bellach. I gwblhau’r cwrs hwn, bydd angen i chi ddefnyddio cyfrifiannell, papur a phen, a phrotractor.
Bydd cofrestru ar y cwrs hwn yn cynnig y cyfle ichi ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored. Mae’r bathodyn yn ffordd dda o ddangos eich diddordeb yn y pwnc. Bydd yr hyn a ddysgwch drwy gwblhau’r cwrs o fudd mawr os hoffech gofrestru am gymhwyster ffurfiol.
Pan fyddwch wedi cofrestru, gallwch reoli’ch bathodynnau digidol ar lein ar eich proffil OpenLearn. Hefyd, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich Datganiad Cyfranogi OpenLearn, sydd hefyd yn dangos eich bathodyn.
Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio fel rhan o Gronfa Dysgu Hyblyg yr Adran Addysg, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a gyda chymorth caredig Dangoor Education , cangen addysgol The Exilarch’s Foundation.
Ysgrifennwyd y cwrs hwn, sydd am ddim, gan Kerry Lloyd, Frances Hughes a Tracy Mitchell yng Ngholeg Cambria, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, Coleg Gwent, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot a’r Brifysgol Agored, ac mewn cydweithrediad ag Joanne Davies, West Herts College, gan ddefnyddio deunyddiau o eiddo’r Open School Trust Ltd (yn masnachu fel y National Extension College) ac mewn partneriaeth â’r Bedford College Group a Middlesborough College.
Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
- Deall problemau ymarferol, nad yw rhai ohonynt yn arferol
- Adnabod y sgiliau mathemateg sydd eu hangen arnoch i fynd i'r afael â phroblem
- Defnyddio mathemateg mewn ffordd drefnus i ddod o hyd i'r datrysiad rydych yn ei geisio
- Defnyddio gweithdrefnau gwirio priodol ar bob cam
- Esbonio'r broses a ddefnyddioch i gael ateb a thynnu casgliadau syml ohoni.
Course Currilcum
- Cyflwyniad a chanllawiau 00:15:00
- Beth yw cwrs â bathodyn? 00:15:00
- Sut i gael bathodyn 00:15:00
-
- Cyflwyniad 00:20:00
-
- Pedwar gweithrediad 00:20:00
- Mynegi gweddill fel degolyn 00:20:00
- Dehongli atebion wrth rannu 00:15:00
- Ymdrin â degolion 00:15:00
- Ymdrin â rhifau mawr 00:25:00
- Cyfrifiadau gyda rhifau mawr 00:20:00
- Ffracsiynau 00:05:00
- Symleiddio ffracsiynau 00:15:00
- Ysgrifennu un swm fel ffracsiwn o swm arall 00:25:00
- Ffracsiynau o symiau 00:25:00
- Ffracsiynau, degolion a chanrannau 00:05:00
- Trosi rhwng canrannau, degolion a ffracsiynau 00:25:00
- Newid ffracsiwn yn ganran 00:15:00
- Newid ffracsiwn yn ddegolyn 00:15:00
- Fformiwlâu 00:15:00
- Trefn gweithrediadau 00:20:00
- Fformiwlâu ar waith 00:30:00
- Gwirio’ch atebion 00:20:00
- Cwis Sesiwn 1 00:07:00
- Crynodeb o Sesiwn 1 00:15:00
- Unedau mesur 00:03:00
- Trosi unedau mesur yn yr un system 00:25:00
- Amser, amserlenni a chyflymder cyfartalog 00:10:00
- Cyfrifo gydag amser ac amserlenni 00:30:00
- Trosi unedau amser 00:15:00
- Cyflymder cyfartalog 00:20:00
- Darllen graddfeydd 00:07:00
- Enghreifftiau o raddfeydd 00:15:00
- Graddfeydd ac offer mesur 00:25:00
- Defnyddio graddfeydd trosi 00:25:00
- Cwis Sesiwn 2 00:05:00
- Crynodeb Sesiwn 2 00:10:00
- Perimedr 00:05:00
- Perimedr siapiau syml 00:15:00
- Perimedrau siapiau â hydoedd sydd ar goll 00:20:00
- Cylchedd cylch 00:25:00
- Lluniadau a chynlluniau wrth raddfa 00:20:00
- Dull a phroblemau lluniadau wrth raddfa 00:25:00
- Cwis Sesiwn 3 00:03:00
- Crynodeb Sesiwn 3 00:10:00
- Siartiau bar 00:30:00
- Nodweddion siart bar 00:20:00
- Dehongli siartiau bar 00:35:00
- Graffiau llinell 00:10:00
- Lluniadu graffiau llinell 00:20:00
- Dehongli graffiau llinell 00:20:00