18

Mae dysgu ar-lein wedi datblygu’n gyflym ac fe’i gwelir bellach ym mhob maes addysg, o ysgolion i hyfforddi sgiliau.

FREE
This course includes
Hours of videos

1 day, 3 hours

Units & Quizzes

107

Unlimited Lifetime access
Access on mobile app
Certificate of Completion

Mae mwy o bobl nag erioed yn dysgu trwy gyrsiau ar-lein. Hyd yn oed pan addysgir ‘wyneb yn wyneb’ yn bennaf, mae adnoddau a rhyngweithio ar-lein wedi dod yn rhan allweddol o’r profiad dysgu.

Ond mae addysgu ar-lein yn wahanol. Os ydych yn gweithio ym maes addysg neu hyfforddiant ar unrhyw lefel, bydd angen i chi ddatblygu sgiliau a dealltwriaeth newydd i wneud y penderfyniadau iawn, manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd, a goresgyn heriau cyffredin.

Mae bron 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Brifysgol Agored dreialu ein cwrs cwbl ar-lein cyntaf gyda’n myfyrwyr. Rydym bellach yn arwain y ffordd yn fyd-eang o ran ymchwilio i addysg ar-lein a’i ddarparu. Yn y cwrs rhad ac am ddim hwn, rhannwn y wybodaeth sylfaenol y mae ei hangen i addysgu’n effeithiol ar-lein.

Yn Ewch â’ch addysgu ar-lein, byddwch yn clywed am brofiadau addysgwyr go iawn, yn cael eich cyflwyno i waith ymchwil blaengar, ac yn deall y syniadau a’r adnoddau sy’n ffurfio’r ffordd rydym yn addysgu ac yn dysgu ar-lein. Byddwch hefyd yn dysgu dulliau defnyddiol a fydd yn eich helpu i brofi’r syniadau newydd hyn yn eich ymarfer eich hun. Gallwch ddarllen y trawsgrifiad hyn yn Gymraeg.

Bydd cofrestru ar y cwrs yn rhoi cyfle i chi ennill bathodyn digidol Prifysgol Agored. Nid yw'r bathodynnau wedi'u hachredu gan y Brifysgol Agored ond maen nhw'n ffordd wych o ddangos eich diddordeb yn y pwnc a'ch ymrwymiad i'ch gyrfa, ac i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Ar ôl i chi fewngofnodi, gallwch reoli'ch bathodynnau digidol ar-lein o My OpenLearn. Yn ogystal, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich datganiad cyfranogi OpenLearn - sydd hefyd yn arddangos eich bathodyn Prifysgol Agored.

Byddai'r Brifysgol Agored wir yn gwerthfawrogi ychydig funudau o'ch amser i ddweud wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch disgwyliadau ar gyfer y cwrs cyn i chi ddechrau, yn ein harolwg dewisol ar ddechrau cwrs  . Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs byddem hefyd yn gwerthfawrogi'ch adborth a'ch awgrymiadau ar gyfer gwella yn y dyfodol, yn ein harolwg dewisol ar ddiwedd y cwrs . Bydd cyfranogiad yn gwbl gyfrinachol, ac ni fyddwn yn trosglwyddo'ch manylion i eraill.

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gymeradwyo gan y Swyddfa Safonau CPD  . Gellir ei ddefnyddio i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ond nid yw'n ddysgu achrededig. Ni allwn ddarparu gwasanaethau dilysu dysgwyr ffurfiol ar gyfer cymryd rhan yn ein cyrsiau ar-lein agored, a ddarperir yn rhydd gan y Brifysgol Agored fel CPD hunangyfeiriedig.

Gall unrhyw un sy'n dymuno darparu tystiolaeth o'u cofrestriad ar y cwrs hwn wneud hynny trwy rannu eu Cofnod Gweithgaredd ar eu Proffil OpenLearn, sydd ar gael cyn cwblhau'r cwrs ac ennill y Datganiad Cyfranogiad.

Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • Adnabod y gwahaniaethau rhwng addysgu ar-lein ac addysgu mewn amgylchedd wyneb yn wyneb.
  • Gwneud penderfyniadau gwybodus wrth ddewis adnoddau ac addysgeg newydd ar gyfer addysgu ar-lein.
  • Amlygu prif fuddion a heriau addysgu ar-lein.
  • Deall arferion newidiol ymarferwyr wrth iddynt ddefnyddio cyfleoedd ar-lein fel rhwydweithiau cymdeithasol ac adnoddau addysgol agored.
  • Deall sut i greu a gwerthuso dulliau o addysgu ar-lein sy’n briodol i chi.

Course Currilcum

  • Cyflwyniad a chanllawiau 00:20:00
  • Beth yw cwrs â bathodyn? 00:10:00
  • Sut i gael bathodyn 00:10:00
    • Cyflwyniad 00:15:00
    • Dulliau addysgu cydamserol ac anghydamserol 00:20:00
    • Myfyrdodau gan yr athro/athrawes 00:10:00
    • Defnyddio cyfleoedd addysgu ar-lein cydamserol ac anghydamserol 00:15:00
    • Rhyngweithio â myfyrwyr 00:15:00
    • Cymhelliad, cymorth a disgyblaeth 00:20:00
    • Datblygu sgiliau a hyder 00:15:00
    • Dysgu cyfunol 00:10:00
    • Ystafelloedd dosbarth gwrthdro 00:20:00
    • Anhysbysrwydd dysgwyr, sianeli cefn a rhyngweithio cymdeithasol 00:15:00
    • Crynodeb 00:10:00
    • Cyflwyniad 00:10:00
    • Egwyddorion addysgu ar-lein effeithiol 00:15:00
    • Crëwch amserlen 00:10:00
    • Rhowch wybodaeth i’r dysgwyr 00:10:00
    • Datblygwch ymdeimlad o gymuned 00:15:00
    • Gofynnwch am adborth 00:07:00
    • Cydnabyddwch amrywiaeth 00:10:00
    • Sut gall damcaniaethau addysgol fynd helpu i ewch â’ch addysgu ar-lein? 00:10:00
    • Ymddygiadaeth 00:07:00
    • Gwybyddoliaeth 00:10:00
    • Lluniadaeth 00:10:00
    • Cysylltiadaeth 00:20:00
    • Technolegau digidol ar gyfer addysgu ar-lein 00:15:00
    • Rheoli cwrs 00:10:00
    • Adnoddau creu cynnwys 00:10:00
    • Rhwydweithio ac adnoddau cydweithio 00:10:00
    • Gwella adnoddau a deunyddiau rydych eisoes yn eu defnyddio 00:10:00
    • Gwrthrychau dysgu 00:30:00
    • Crynodeb 00:10:00
    • Cyflwyniad 00:15:00
    • Technolegau ar gyfer creu cynnwys 00:07:00
    • Addasu ac ymestyn cyflwyniadau sleidiau 00:15:00
    • Sgrinledu 00:15:00
    • Recordiad fideo technoleg isel, cymhlethdod isel 00:15:00
    • Trin delweddau 00:15:00
    • Adnoddau rhyngweithiol bach sy’n cael effaith fawr 00:10:00
    • Adnoddau datblygu e-ddysgu 00:10:00
    • Platfformau Gwegynadledda 00:10:00
    • Ffrydiau RSS a chydgasglwyr 00:10:00
    • Canfod llên-ladrad 00:15:00
    • Personoli gydag adnoddau ar gyfer dysgu 00:15:00
    • Gwasanaethu cynulleidfaoedd amrywiol 00:20:00
    • Rhoi rheolaeth i’r dysgwyr 00:15:00
    • Technolegau ar gyfer cyfathrebu cymdeithasol 00:15:00
    • Technolegau cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo cymuned 00:10:00
    • Technolegau cymdeithasol i wella presenoldeb 00:15:00
    • Delio â newid yn y sector technoleg 00:10:00
    • Sut i ddewis 00:10:00
    • Cysylltu deilliannau dysgu, gweithgareddau ac adnoddau 00:45:00
    • Crynodeb 00:10:00
    • Cyflwyniad 00:15:00
    • Buddion ymgysylltu â rhwydweithiau ar-lein 00:15:00
    • Rhannu syniadau 00:10:00
    • Datblygu partneriaethau a chymunedau 00:07:00
    • Rhannu gwybodaeth 00:05:00
    • Datblygiad proffesiynol 00:10:00
    • Creu cysylltiadau 00:45:00
    • Cymunedau ymarfer a thywydd rhwydwaith 00:10:00
    • Cymunedau ymarfer 00:15:00
    • Tywydd rhwydwaith 00:20:00
    • Datblygu eich rhwydweithiau 00:45:00
    • Crynodeb 00:10:00
    • Cyflwyniad 00:15:00
    • Adnoddau Addysgol Agored 00:10:00
    • Beth yw Adnoddau Addysgol Agored? 00:15:00
    • Pam y dylwn i fod â diddordeb mewn OER? 00:20:00
    • Gwerthuso adnoddau ar-lein o ran trwyddedu ac ansawdd 00:03:00
    • Hawlfraint a rôl trwyddedau Creative Commons 00:20:00
    • Gwerthuso adnoddau agored 00:15:00
    • Trwyddedu eich deunyddiau eich hun 00:15:00
    • Dod o hyd i adnoddau ar-lein 00:07:00
    • Storfeydd OER 00:50:00
    • Crynodeb 00:10:00
    • Cyflwyniad 00:15:00
    • Beth yw technoleg gynorthwyol? 00:15:00
    • Mathau o dechnoleg gynorthwyol 00:20:00
    • Gwneud eich deunyddiau ar-lein yn hygyrch 00:15:00
    • Sicrhau eglurder o ran llywio a golwg 00:30:00
    • Gwneud elfennau gweledol yn hygyrch 00:30:00
    • Gwneud elfennau clywedol yn hygyrch 00:10:00
    • Gwneud elfennau sy’n cael eu harddangos yn addasadwy 00:20:00
    • Sicrhau y gellir cwblhau tasgau heb fod angen deheurwydd dwylo neu graffter gweledol 00:10:00
    • Gwirio hygyrchedd deunyddiau 00:30:00
    • Fformatau amgen 00:30:00
    • Crynodeb 00:10:00
    • Cyflwyniad 00:10:00
    • Newid y dechnoleg neu’r addysgeg? 00:10:00
    • Ymwelwyr a Phreswylwyr 00:15:00
    • Dylunio dysgu 00:15:00
    • Gwireddu’r newid 00:15:00
    • Cyngor ac awgrymiadau da 00:25:00
    • Dadansoddi eich ymarfer a’r cwmpas ar gyfer newid 00:15:00
    • Crynodeb 00:07:00
    • Cyflwyniad 00:15:00
    • Dadansoddeg dysgu 00:30:00
    • Adborth a myfyrio 00:07:00
    • Ceisio adborth 00:10:00
    • Deall adborth 00:30:00
    • Myfyrio 00:10:00
    • Ymchwil weithredu 00:15:00
    • Adolygu, addasu, ailadrodd! 00:15:00
    • Casgliad 00:10:00
    • Rhowch eich barn i ni 00:10:00