0

(

ratings

)

31

students

Created by:

Profile Photo

Last updated:

May 14, 2022

Duration:

Unlimited Duration

FREE

This course includes:

Unlimited Duration

Badge on Completion

Certificate of completion

Unlimited Duration

Description

Mae'r Brifysgol Agored wedi ymuno â MoneySavingExpert (MSE) i gynhyrchu'r cwrs rhad ac am ddim newydd hwn i roi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi feistroli eich arian.

Ysgrifennwyd y cwrs gan y Brifysgol Atodol, gyda chyngor ac arweiniad MSE. Cynhyrchwyd y cwrs hwn yn Saesneg yn wreiddiol ac mae wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan y Brifysgol Agored.

Gyda fideos, sain, cwisiau a gweithgareddau, mae'r cwrs yn cwmpasu holl agweddau allweddol cyllid personol mewn chwe sesiwn astudio, ac mae pob un yn cymryd tua dwy awr i'w cwblhau.

Mae'r cwrs yn dechrau drwy edrych ar sut i fod â synnwyr cyffredin wrth wario arian ac ar y pwysau ymddygiadol a marchnata sy'n ceisio dylanwadu ar yr hyn y mae defnyddwyr yn ei brynu.

Yna, mae'n edrych ar gyllidebu ac effaith treth ar gyllid cartrefi.

Mae benthyca arian yn rhywbeth y mae bron pob aelwyd yn gyfarwydd ag ef ond gall achosi problemau ariannol. Mae'r cwrs yn esbonio sut i fenthyg arian yn synhwyrol os oes angen, boed yn fenthyciad i brynu car neu forgais i brynu eich cartref.

Ydych chi eisiau cynilo neu fuddsoddi arian? Mae'r cwrs yn edrych ar gyfrifon cynilo syml ond hefyd buddsoddiadau fel cyfranddaliadau, nwyddau neu eiddo. Mae'n esbonio'r hyn sy'n gysylltiedig â'r risgiau rydych chi'n eu hamlygu wrth i chi chwilio am elw uwch ar eich arian.

Mae'r cwrs yn gorffen drwy fynd i'r afael â chymhlethdodau pensiynau. Bydd yn eich helpu i feddwl am eich opsiynau wrth ymddeol, fel beth fydd cyfanswm eich pensiwn y wladwriaeth, ategu hyn â phensiwn galwedigaethol neu bersonol, a'r hyn y gallwch ei wneud os nad yw eich darpariaeth bensiwn yn ddigonol ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch.

Bydd cofrestru ar y cwrs yn rhoi cyfle i chi ennill bathodyn digidol y Brifysgol Agored – mae hyn, ynghyd â datganiad cyfranogiad OpenLearn, yn gyfystyr â'r cymhwyster y mae Martin Lewis yn cyfeirio ato yn y fideo. Nid yw bathodynnau wedi'u hachredu gan y Brifysgol Agored ond maent yn ffordd wych o ddangos eich diddordeb yn y pwnc a'ch ymrwymiad i'ch gyrfa, ac i ddarparu tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch reoli eich bathodynnau digidol ar-lein o My OpenLearn. Yn ogystal, gallwch lawrlwytho ac argraffu eich datganiad cyfranogiad OpenLearn – sydd hefyd yn dangos eich bathodyn Prifysgol Agored.

Byddai'r Brifysgol Agored wir yn gwerthfawrogi ychydig funudau o'ch amser i ddweud wrthym amdanoch eich hun a'ch disgwyliadau ar gyfer y cwrs cyn i chi ddechrau, yn ein harolwg dechrau cwrs dewisol .  Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs byddem hefyd yn gwerthfawrogi eich adborth a'ch awgrymiadau ar gyfer gwella i'r dyfodol, yn ein harolwg diwedd y cwrs dewisol . Bydd cymryd rhan yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i eraill.

Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • cyllidebu’n effeithiol a gwybod sut i wneud penderfyniadau gwario da
  • deall sut caiff incwm ei drethu
  • deall sut a phryd i fenthyca arian mewn modd cyfrifol
  • deall cynnyrch cynilo a buddsoddi – gan gynnwys y gwahanol risgiau sydd ynghlwm â nhw
  • cynllunio ar gyfer ymddeoliad a gwybod beth i’w wneud os nad yw pensiwn disgwyliedig yn ddigonol.

Course Curriculum

  • Cyflwyniad a chanllawiau 00:25:00
  • Beth yw cwrs â bathodyn? 00:15:00
  • Sut mae cael bathodyn 00:15:00
    • Cyflwyniad 00:25:00
    • Beth yw eich personoliaeth ariannol? 00:15:00
    • Y dylanwadau cymdeithasol ar wario 00:15:00
    • Gallai eich arferion amharu ar eich dewisiadau gwario 00:05:00
    • Dewis dwyn buddion ariannol ymlaen a gohirio gwariant 00:15:00
    • Dewis symlrwydd yn hytrach na gwerth gorau 00:10:00
    • Peidio â gwerthuso’r dystiolaeth yn iawn wrth brynu pethau 00:15:00
    • Gall gohirio’r penderfyniad fod yn benderfyniad (gwael) 00:15:00
    • Gall eich personoliaeth effeithio’n ddifrifol ar eich gwariant 00:15:00
    • Deall y grymoedd marchnata sy’n gallu effeithio ar ein gwariant 00:20:00
    • Model gwneud penderfyniadau i gymryd rheolaeth o benderfyniadau gwariant 00:10:00
    • Cwis hanner amser 00:05:00
    • Pam ydyn ni’n prynu yswiriant? 00:30:00
    • Cymhwyso Camau 1 a 2 y model gwneud penderfyniadau i yswiriant 00:25:00
    • Cymhwyso Camau 3 a 4 y model gwneud penderfyniadau i yswiriant 00:20:00
    • Ffonau symudol ac yswiriant 00:15:00
    • Siopa ar-lein 00:20:00
    • Bod yn siopwr doethach ar-lein 00:20:00
    • Cwis diwedd sesiwn 00:07:00
    • Crynodeb o Sesiwn 1 00:15:00
    • Cyflwyniad 00:20:00
    • Incwm a threthi 00:10:00
    • Deall treth incwm 00:30:00
    • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) 00:20:00
    • Cwis hanner amser 00:05:00
    • Deall codau treth 00:25:00
    • Oes angen i mi lenwi ffurflenni treth incwm? 00:15:00
    • Pam mae angen i mi gyllidebu? 00:10:00
    • Ochr incwm y gyllideb 00:20:00
    • Troi at ochr gwario’r gyllideb 00:05:00
    • Llunio eich cyllideb 00:20:00
    • Eich cyllideb eich hun 00:10:00
    • Lleihau eich gwariant 00:25:00
    • Cwis diwedd sesiwn 00:05:00
    • Crynodeb o Sesiwn 2 00:15:00
    • Cyflwyniad 00:30:00
    • Y cynnydd mewn benthyca yn y DU 00:20:00
    • Dyled dda o’i chymharu â dyled ddrwg 00:30:00
    • Asiantaethau gwirio credyd a’ch hanes credyd 00:20:00
    • Sut mae eich hanes credyd yn cael ei grynhoi 00:30:00
    • Sut mae rhoi hwb i’ch teilyngdod credyd 00:20:00
    • Awgrymiadau da i helpu eich teilyngdod credyd 00:15:00
    • Cwis hanner amser 00:10:00
    • Pwy yw’r rhoddwyr benthyciadau? 00:10:00
    • Yr archfarchnad ddyledion: dod i adnabod y cynhyrchion 00:40:00
    • Faint mae’n gostio i fenthyca arian? 00:15:00
    • Cyfradd Ganrannol Flynyddol (APR): y cymharydd allweddol ar gyfer penderfyniadau benthyca 00:15:00
    • Gosod cyfraddau llog a rôl Banc Lloegr 00:20:00
    • Benthyca cost isel a chost uchel 00:20:00
    • Cwis diwedd sesiwn 00:05:00
    • Crynodeb o Sesiwn 3 00:20:00
    • Cyflwyniad 00:20:00
    • Cael morgais: faint ydw i’n gallu ei fenthyca? 00:25:00
    • Yr eiddo dan sylw a phwysigrwydd ‘benthyciad mewn cymhariaeth â gwerth’ 00:40:00
    • Ad-daliad neu log yn unig 00:20:00
    • Cyfradd sefydlog neu gyfradd amrywiadwy? 00:15:00
    • Cwis hanner amser 00:07:00
    • Dewisiadau morgais: morgeisi gwrthbwyso, hyblyg a chludadwy 00:10:00
    • Rheoli eich morgais: gordalu 00:20:00
    • Symud i gynnig arall 00:15:00
    • Gadael morgais cyfradd sefydlog 00:20:00
    • Costau eraill cysylltiedig â phrynu eiddo 00:30:00
    • Morgeisi: deall a rheoli’r risgiau 01:00:00
    • Cwis diwedd sesiwn 00:07:00
    • Crynodeb o Sesiwn 4 00:20:00
    • Cyflwyniad 00:20:00
    • Pam ddylen ni gynilo ar gyfer y dyfodol? 00:25:00
    • Y gwahaniaeth rhwng cynilo a buddsoddi 00:20:00
    • Problem cynilo’r DU 00:20:00
    • Yr archfarchnad cynilion: Pa fath o gyfrifon alla i eu cael? 00:40:00
    • Beth am Fondiau Premiwm? 00:15:00
    • Yr archfarchnad cynilion: A ddylech chi gael ISA? 00:20:00
    • ISAs ar gyfer eich cartref cyntaf neu eich ymddeoliad 00:20:00
    • Yr archfarchnad cynilion: Deall llog a threth 00:20:00
    • Yr archfarchnad cynilion: rhai pwyntiau terfynol 00:15:00
    • Mae arian mewn cyfrif cynilo bron bob amser yn ddiogel 00:20:00
    • Llunio eich strategaeth cynilion 00:25:00
    • Cwis hanner amser 00:05:00
    • Buddsoddiadau – ochr fwy peryglus cynilo (ond un gwerth chweil o bosibl) 00:20:00
    • Deall cyfranddaliadau 00:20:00
    • Deall bondiau 00:20:00
    • Deall nwyddau 00:20:00
    • Deall buddsoddi mewn eiddo 00:15:00
    • Deall cronfeydd buddsoddi 00:25:00
    • Strategaethau buddsoddi: sut i reoli eich risg 00:20:00
    • Deall cynnyrch cymar-i-gymar 00:25:00
    • A oes angen cyngor ariannol arnaf wrth ddewis buddsoddiad neu a ddylwn i fynd ati ar fy mhen fy hun? 00:30:00
    • Cwis diwedd sesiwn 00:05:00
    • Crynodeb o Sesiwn 5 00:15:00
    • Cyflwyniad 00:20:00
    • Sut mae gwariant yn newid yn nes ymlaen mewn bywyd? 00:30:00
    • Pensiynau’r wladwriaeth 00:20:00
    • Faint mae pensiwn y wladwriaeth yn ymestyn? 00:20:00
    • Cynlluniau pensiwn galwedigaethol 00:15:00
    • Cynlluniau galwedigaethol: symud i bensiynau cyflog cyfartalog 00:15:00
    • Cynlluniau galwedigaethol: fel cael codiad cyflog 00:15:00
    • Cwis hanner amser 00:05:00
    • Pensiynau personol: cynlluniau prynu arian 00:15:00
    • Cynllunio eich pensiwn: y costau a’r risgiau 00:25:00
    • Deall lwfansau treth pensiwn 00:20:00
    • Beth fydda i’n gallu ei wneud gyda fy mhensiwn pan fydda i’n ymddeol? 00:15:00
    • Chwyldro pensiynau 2015: rhyddhau mynediad at botiau pensiwn 00:20:00
    • Dim digon yn eich cynllun pensiwn – yr opsiynau 00:25:00
    • Cwis diwedd y cwrs 00:10:00
    • Crynodeb o Sesiwn 6 00:25:00

About the instructor

4.8 4.8

Instructor Rating

14

Reviews

1068

Courses

42460

Students

Profile Photo
Open University UK