35

Mae'r course hon yn ystyried i sut y gall ymgymryd â gwaith gwirfoddol wella eich cyfleoedd cyflogaeth.

FREE
This course includes
Units & Quizzes

0

Unlimited Lifetime access
Access on mobile app
Certificate of Completion

Cyflwyniad

Mae unrhyw bapur newydd lleol yn disgrifio cyflawniadau diweddaraf gwirfoddolwyr yn y gymuned: codi arian ar gyfer ysbyty, creu pwll bywyd gwyllt. Mae'r buddiannau i'r gymuned yn amlwg, ond mae'r uned hon yn ystyried sut y gall ymgymryd â gwaith gwirfoddol wella eich cyfleoedd cyflogaeth. Bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar sut y gall gwaith gwirfoddol wella rhagolygon swydd y rheini sydd wrthi'n chwilio am waith neu sy'n ystyried newid gyrfa. Mae gwirfoddoli yn creu argraff ar gyflogwyr, ond nid yw llawer o wirfoddolwyr yn gwerthfawrogi pa sgiliau perthnasol y maent wedi'u meithrin nac yn gwybod sut i'w cyflwyno mewn ceisiadau a chyfweliadau. Byddwn yn ystyried strategaethau ymarferol i wneud y gorau o'ch profiad gwirfoddoli a rhoi mantais i chi yn y farchnad swyddi.
  1. Pam gwneud hynny?
  2. Beth y gallaf ei gynnig?
  3. Beth fyddai'n addas ar fy nghyfer?
  4. Dechrau arni
  5. Y camau nesaf
  6. Gwneud argraff ar gyflogwyr - sut i gyfleu buddiannau a gwerth profiad gwirfoddol
  7. Cwestiynau Cyffredin
  8. Ffynonellau cyfeirio
Erbyn diwedd yr uned hon, dylech werthfawrogi'n llawn yr amrywiaeth o waith gwirfoddol sy'n bosibl a dylech feddu ar ymwybyddiaeth o'r gwahanol ffyrdd y gall eich helpu i gyflawni eich amcanion, boed hynny'n bersonol neu mewn perthynas â swydd.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl i chi gwblhau'r uned hon, byddwch:

Erbyn diwedd yr uned hon, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Nodi eich amcanion;
  • Asesu'r hyn sydd gennych i'w gynnig;
  • Pwyso a mesur hynny yn erbyn fframwaith ymarferol o'ch amgylchiadau personol;
  • Ystyried amrywiaeth o ffynonellau cyfeirio er mwyn dewis beth sydd fwyaf perthnasol;
  • Paratoi cynllun gweithredu, gan gynnwys gwerthusiad o'ch cyflawniadau;
  • llunio strategaethau parhaus er mwyn datblygu eich gwaith gwirfoddol;
  • Deall gofynion cyflogwyr a chyfateb y sgiliau y byddwch yn eu meithrin i'r gofynion hynny;
  • Cyfleu a chyflwyno tystiolaeth o'r sgiliau hyn yn effeithiol wrth chwilio am swydd.

Course Currilcum

Open University UK
4.8

⭐ Instructor rating

Followers

0

Following

0

Groups

0

Friends

0